Os ydych chi wedi gweld un swyddfa, rydych wedi gweld y cyfan.

Wel. Dim cweit.

Mae swyddogaethau a nodweddion sylfaenol swyddfeydd wedi bod yn eithaf arferol ers amser hir.

Cadeiriau, byrddau, gliniaduron, ffonau. Gofod i ganolbwyntio. I ddod ynghyd â chydweithwyr a chyfathrebu. Nod rhwng bywyd y tu mewn i’r gwaith, a’r tu allan i’r gwaith.

Ond mae rhai sefydliadau’n mynd ymhellach ac yn ddyfnach yn eu hymdrech i gynnig lleoliadau cynhyrchiol ar gyfer gweithwyr.

Mae gennych chi ‘doesen’ Apple yn Cupertino.

Ac mae gan Amazon ‘biosffer‘ yn Seattle.

Ac mae gennych chi ‘dreamland’ Moneypenny yn … Wrecsam.

Dyna chi. Yn fuan bydd gan Moneypenny o Wrecsam adeilad swyddfa sydd yr un mor radical ac arloesol a chewri technolegol ein hoes.

External 1

mwy na dim ond swyddfa

Mae’r cwmni – sy’n darparu gwasanaeth delio â galwadau yn allanol, ac sydd â changhennau yn Seland Newydd a Charleston, De Carolina yn yr Unol Daleithiau – wedi cadarnhau ei ymrwymiad parhaus i Wrecsam drwy gyhoeddi cynlluniau i adeiladu pencadlys newydd sbon yma.

Rŵan, mae hynny’n newyddion gwych i ni. Mae Moneypenny yn gyflogwr lleol o bwys.

Ond yr hyn sydd wir yn ddiddorol yw’r meddylfryd newydd y tu ôl i greu’r adeilad.

Bydd y datblygiad gwerth £15 miliwn, sy’n cael ei ddisgrifio fel “10 acres of dreamland”, yn cynnwys tŷ adar, tafarn y pentref a desgiau gyda golygfeydd ysblennydd o gefn gwlad.

Bydd hefyd yn cynnwys llwybrau natur, perllannau a gerddi llysiau.

Internal 1

rhywle rydych eisiau bod ynddo

Felly beth sydd y tu ôl i hyn? Pam fo cwmnïau gydag enw da am flaengaredd yn creu’r gweithleoedd hyn?

A ydynt yn gwneud datganiad sy’n cefnogi eu brand? Efallai. Ond mae fel arfer yn ddyfnach na hynny.

Nid damwain a hap yw bod Moneypenny wedi cael eu henwau’n gyson ar restr y Sunday Times o’r 100 Cwmni Gorau i Weithio Iddynt.

Mae’n deall manteision cael gweithwyr hapus. Ac mae’n cyflawni hynny’n rhannol drwy greu amgylchedd gwaith gwych.

Os ydych yn hoffi eich man gwaith, byddwch yn gweithio’n well.

creadigrwydd

Mae ongl arall i hyn hefyd.

Mae angen gweithwyr blaengar ar sefydliadau blaengar.

Gallwch fetio fod hynny ar flaen meddwl cwmnïau fel Apple, Amazon, Google, Moneypenny a miloedd o sefydliadau eraill wrth iddynt ddylunio eu hamgylchedd gwaith.

Pan fyddwch yn meddwl am asiantaethau creadigol, byddwch yn meddwl am ystafelloedd gemau, soffas meddal i suddo iddynt, coffi posh a phatios ar y to.

Ydi, mae’n creu argraff dda ar gwsmeriaid. Wrth gwrs ei fod. Ond mae’n ymwneud â meithrin meddylfryd creadigol ymysg gweithwyr.

Os ydych yn gweithio mewn lleoliad lle mae’r rheolau a’r defodau’n teimlo’n hyblyg (o fewn rheswm), mae eich ffordd o feddwl yn dod yn fwy hyblyg.

Dywedodd cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Moneypenny, Ed Reeves: “Yn llythrennol, mi wnaethom eistedd i lawr gyda darn gwag o bapur a holi’n hunain ‘beth allem ni ei wneud gyda’r 10 erw yma o dir glas bendigedig?’

“Yr ateb oedd creu ein cartref delfrydol – rhywle cyffrous ac arloesol, ond eto’n ymarferol.”

External 2

pobl

Pan fydd busnes fel Moneypenny yn datgelu gweledigaeth fel hyn i’r byd, mae’n cyflwyno neges wych am Wrecsam.

Mae’n dweud ‘mae hwn yn lle y gall cwmnïau arloesol dyfu ynddo.’ Mae hynny’n hollol wych yn dydi?
(Edrychwch ar fy erthygl flaenorol Gwaed, Chwys a Syniadau i ddysgu mwy am arloesi yn Wrecsam.)

Wrth gwrs, dim ond rhan o’r darlun yw adeiladau a swyddfeydd. Mae’n ymwneud â phobl. Mae’n ymwneud â buddsoddi yn eich gweithlu.

Mae Cyngor Wrecsam – fel pawb arall yn y sector cyhoeddus – yn wynebu heriau ariannol enfawr. Rydym yn ail-lunio ac yn newid maint i ymateb i’r her honno, ac ni allwn adeiladu gweithleoedd anhygoel ar gyfer staff.

Ond nid yw hynny’n golygu na ddylem fuddsoddi yn ein gweithwyr a chreu’r amgylchedd a’r amodau gorau posibl.

Os byddwn yn buddsoddi yn ein staff, byddant yn buddsoddi yn ein cwsmeriaid.

Ac mae buddsoddi mewn cwsmeriaid wrth ganol ein model busnes.

Internal 2