Helen Paterson

Dyma’r erthygl olaf y bydda’ i’n ei chyhoeddi ar y blog yma.

Erthygl ffarwel ydi hi…nid am fy mod i wedi cael llond bol ar flogio. Ddim o bell ffordd.

Y rheswm yw – ar ôl chwe blynedd llawn mwynhad a chyffro yn Wrecsam – rydw i’n gadael i gychwyn swydd newydd fel prif weithredwr Cyngor Walsall.

Pan ddechreuais i’r blog yma bedair blynedd yn ôl, ro’n i ‘chydig bach yn nerfus.

Ro’n i eisiau ysgrifennu am rai o’r pethau da sy’n digwydd yn Wrecsam. A’r heriau a’r cyfleoedd y mae arweinwyr y sector cyhoeddus yn eu hwynebu ledled y DU.

Ond do’n i erioed wedi rhoi fy meddyliau a fy syniadau ‘allan yna’ o’r blaen, felly roedd o’n deimlad eithaf rhyfedd.

Ond mae o wir wedi bod yn brofiad gwerth chweil.

A phan fydda’ i’n edrych yn ôl ar yr amrywiol erthyglau rydw i wedi’u postio, maen nhw’n fy atgoffa i o’r cysylltiad cryf rydw i wedi’i ffurfio â’r lle ‘ma.

Argraff fawr

Pan ddes i i Wrecsam, ro’n i’n ddieithryn. Do’n i ddim yn nabod neb a doedd neb yn fy nabod i.

Wrth i mi adael y cyngor, ac wrth i ni fel teulu symud i ffwrdd yn y pen draw, rydw i’n teimlo ‘mod i’n perthyn – yn rhan o’r lle – a’r bobl rydw i wedi bod yn gweithio gyda nhw sydd y tu ôl i hynny.

Mae eu hymrwymiad i Wrecsam, a’r ffordd rydym ni wedi cydweithio er gwaethaf heriau ariannol dwys, wedi gwneud cryn argraff arna’ i.

Rydw i’n teimlo’n llawn cyffro ynglŷn â fy swydd newydd yn Walsall, ond rydw i hefyd yn drist fy mod yn gorfod gadael Cyngor Wrecsam, a Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn y pen draw.

Mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio gyda fy nghydweithwyr, ein partneriaid a’r cynghorwyr, a chael gwasanaethu’r bobl leol. Rydw i wir yn credu fod Wrecsam yn lle arbennig iawn.

Ac os ydych chi wedi mwynhau darllen y blog yma, a dysgu am rai o’r pethau da sy’n digwydd yma, da chi, dilynwch Newyddion Cyngor Wrecsam.

Wna’ i byth anghofio Wrecsam. A gobeithio na wnewch chithau chwaith.

Fy chwe hoff erthygl

Os oes gennych chi bum munud i’w sbario, ac yn teimlo’r awydd i ddarllen mwy, dyma chwech o fy hoff erthyglau ar y blog yma…

Advertisements

Flwyddyn yn ôl fe wnes i bostio erthygl am gelf ac adfywio trefol.

Fe wnaethom ni edrych ar sut y gall celf chwarae rôl mewn helpu canol trefi a strydoedd mawr i aros yn berthnasol wrth wynebu arferion siopa sy’n newid, a thechnolegau aflonyddol megis e-fasnach.

Mi wnes i grybwyll syniad yr oeddem yn edrych arno yn Wrecsam – prosiect a fyddai’n trawsnewid un o’n marchnadoedd dan do a maes parcio aml lawr yn ganolfan ddiwylliannol gydag awyrgylch egnïol.

Felly sut mae pethau’n mynd? Wel, mae’r syniad yn agos iawn at gael ei wireddu.

Ar gyfer pawb

Mae gwaith ar y safle yn dechrau siapio ac mae’r adeilad yn cael ei drawsnewid o’r tu mewn i’r tu allan gan gontractwyr a staff y cyngor.

Yn fwy na hynny, mae gennym ni enw.

Nid ‘prosiect’ yn unig ydi hyn rhagor. Ei enw yw Tŷ Pawb. Sy’n golygu union hynny.

Mae dau beth rydw i’n hoffi am yr enw.

Yn gyntaf, enillodd bleidlais y cyhoedd. Rhoddwyd tri enw ymlaen, a’r enw hwn oedd yn fuddugol.

Felly hwn oedd “dewis y bobl”.

Yn ail, mae’r enw’n cwmpasu ethos y lle.

Bydd yr adeilad yn cynnig lle ar gyfer arddangosfeydd ar daith, gweithdai, busnesau cychwynnol creadigol, digwyddiadau a pherfformiadau.

Bydd y farchnad yn parhau i fasnachu yn yr adeilad, gyda stondinwyr yn cofleidio’r her o fod yn rhan o rywbeth newydd.

Y pwynt allweddol ydi bod Tŷ Pawb yn mynd i fod yno i bob un.

Nid i artistiaid yn unig. Nid i siopwyr yn unig. Nid i’r ifanc neu’r henoed yn unig. Bydd yno i bawb, ac rydw i’n gobeithio y bydd pobl ar draws ein cymuned yn elwa ohono.

Rydw i’n credu ei fod yn brosiect cyffrous ac rydw i bron â thorri bol wrth aros i’r drysau agor yn ystod y Gwanwyn. I ddarllen mwy, edrychwch ar ein blog newyddion…Newyddion Cyngor Wrecsam.

Ym mhob sefydliad mawr, mae mythau yn datblygu.

Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod gan fy mod i’n brif weithredwr Awdurdod Lleol, nid wyf yn talu treth y cyngor?

Na. Na finnau ‘chwaith.

Wrth gwrs fy mod i’n talu treth y cyngor, ond mae’r myth nad oes yn rhaid i weithwyr y cyngor dalu yn fwy amlwg na’r disgwyl.

Rwyf hyd yn oed wedi clywed am bobl sydd wedi derbyn swydd gyda’r cyngor ac yna wedi’u synnu na fyddent yn cael disgownt!

Mae’n swnio’n rhyfedd, ond dim ond un enghraifft yw hyn o sut y gall camddealltwriaeth cyffredin gael ei ymgorffori yn y modd y mae pobl yn gweld sefydliadau mawr.

Wrth gwrs, mae rheswm pam fod mythau’n cael eu lledaenu.

Weithiau rydym eisiau eu credu – am eu bod yn gyffrous neu’n ysbrydoli, neu am ein bod eisiau credu mewn rhywbeth neu rywun,… neu eisiau beio rhywun.

Weithiau, nid ydym yn gwybod yn wahanol.

Er enghraifft, wrth ystyried gwasanaethau cyhoeddus nid yw’n hawdd gwybod pwy sy’n gyfrifol am beth bob amser- beth mae’r cynghorau yn ei wneud, a ble mae eu cyfrifoldebau a’u hymgysylltiad yn dechrau ac yn gorffen. Mae’n ddryslyd.

Mae nifer yn credu bod cynghorau yn rheoli trethi busnes- gan benderfynu faint y dylai busnesau lleol ei dalu.

Ond mae’r trethi’n cael eu gosod gan y Swyddfa Brisio, ac yng Nghymru mae’r cynghorau’n casglu’r arian a’i dalu i’r gronfa ganolog, sydd yna’n cael ei ddosbarthu gan y llywodraeth ganolog i dalu am wasanaethau cyhoeddus.

Ond os nad oeddech chi’n gwybod hynny, byddai’n gwbl resymol eich bod yn credu bod eich cyngor lleol yn rheoli trethi busnes- yn enwedig gan eu bod yn casglu’r arian.

Arweiniodd y mythau cyffredin hyn am lywodraeth leol at erthygl ddiddorol ar Newyddion Cyngor Wrecsam (ein blog newyddion).

Gweler yma…

Mae bywyd yn gymhleth ac ansicr, ac weithiau rydym yn wynebu heriau sy’n cael effaith ddofn arnom ni.

Pethau fel straen, afiechyd, profedigaeth, diffyg hunan-barch.

Mae’r byd yn cau amdanom ac rydym yn teimlo ofn – gwaethaf oll – ar ein pen ein hunain.

Gall cael rhywun i siarad â nhw wneud gwahaniaeth mawr. Felly bob blwyddyn yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol o’r enw Amser i Siarad.

Mae’n annog pobl i feddwl am iechyd meddwl a chydnabod y gall y weithred syml o siarad helpu.

I roi ffocws ar y mater eleni, rhannom hanesion personol gyda gweithwyr. Ysgrifennwyd y straeon gan gydweithwyr ac yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain.

Mae’n cymryd dewrder go iawn i ysgrifennu am rywbeth fel hynny, a fedra i ddim diolch ddigon i’r bobl hynny.

Gan fod y straeon hynny wedi ysbrydoli llawer ohonom i feddwl am iechyd meddwl a phwysigrwydd neilltuo amser i’n hunain ac eraill – boed hynny’n golygu cael paned o de gyda’n gilydd, mynd am dro neu ddim ond gwrando ar rywun yn egluro sut maen nhw’n teimlo.

Mae siarad yn helpu Mae mor syml â hynny.

cadw llygad ar ein gilydd

Yn ôl adroddiad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), nifer llawn y dyddiau gwaith a gollwyd yn sgil straen yn ymwneud â gwaith, iselder neu bryder yn 2015-16 oedd 11 miliwn o ddyddiau.

A dim ond yr achosion ‘yn ymwneud â gwaith’ yw’r rheini. Mae nifer o bobl yn cael eu hunain yn analluog i weithio oherwydd pethau y tu allan i’r gwaith sy’n effeithio ar eu lles meddyliol (profedigaeth er enghraifft).

Felly mae’n fater anferth sy’n effeithio ar nifer o bobl.

Mae rheswm ymarferol iawn pam y dylai sefydliadau mawr gefnogi iechyd meddwl gweithwyr. Mae’n helpu pobl i aros – neu fod – yn ddigon iach i wneud eu gwaith a gwneud cyfraniad gwerthfawr.

Ond mae rheswm gwell. Dyna’r peth cywir i’w wneud.

Rydym yn darparu llawer o gefnogaeth i staff a effeithir gan bethau fel straen, pryder a cholled – o iechyd galwedigaethol i ymarferion dychwelyd yn raddol i’r gwaith.

Ond yn bwysicaf oll, rydym yn annog cydweithwyr i gadw llygad ar ei gilydd ac edrych ar ôl eu hunain. Dyna yw’r syniad y tu ôl i Amser i Siarad.

Ac mae’n bwysig cofio hynny. Boed yn y gwaith, yn ein cymunedau neu gartref, dylai pob un ohonom ofalu am ein gilydd gystal ag y gallwn ni.

Efallai nad ydym bob amser yn haneru problem drwy ei rhannu, ond mae bob amser yn help i gael rhywun yn gefn i chi.

Ysgrifennwyd y stori ganlynol gan un o weithwyr Cyngor Wrecsam a’i rannu gyda chydweithwyr fel rhan o Amser i Siarad.

profedigaeth


Un diwrnod roedd fy chwaer yma, a’r diwrnod nesaf roedd wedi mynd – bu farw’n sydyn. I mi, ar y pryd, roeddwn yn teimlo bod y byd ar ben, byddai fy nghalon yn hollti’n ddwy yn llythrennol ac na fyddwn i fyth yn gallu gwenu na byw’r bywyd roedd hi wedi’i golli.

Rwy’n cofio clywed fod y byd yn mynd yn ei flaen o’m cwmpas a fedrwn i ddim credu nad oedd pawb yn teimlo fel yr oeddwn i, ac yn dal i allu gweithredu.

Byddwn yn eistedd am oriau yn syllu i unlle ac am y flwyddyn gyntaf, ni fyddai diwrnod yn mynd heb i’r dagrau lifo – yn y car, dros ginio gyda fy mhartner, yn y nos neu’r rhan fwyaf o’r amser ar y toiled (yn ceisio’i guddio oddi wrth fy nheulu, ffrindiau neu gydweithwyr).

Y nosweithiau oedd galetaf gan na fedrwn i gysgu, os byddwn yn cau fy llygaid byddwn yn gweld ei wyneb yn dod allan o’r tywyllwch i roi hunllefau i mi gan ddangos y boen roedd yn ei deimlo.

Ond, wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen mi wnes i ddysgu ymdopi gyda’r boen. Dysgais i’w roi mewn blwch fel y gallwn godi yn y bore, gwisgo, gyrru a gwneud fy swydd. Wrth i mi gryfhau a pharhau i gryfhau, roeddwn yn dal i fod eisiau ceisio mynd yn ôl i fod y person yr oeddwn i, cyn iddi hi farw.

Pan es i weld cwnselydd, dywedodd wrthyf nad y person hwnnw fyddwn i byth eto. Cefais fy syfrdanu a fy mrawychu gan ba mor gas a di flewyn ar dafod yr oedd y Cwnselydd yn bod – oedd hi ddim gweld y boen roeddwn yn ei deimlo?

Ond dyma oedd y peth gorau y gallai hi fod wedi dweud wrthyf gan fod hynny’n wir, nid y person hwnnw fyddwn i gan fy mod bellach yn berson gwahanol. Byddai’r boen yno am byth, doedd dim gwellhad gwyrthiol.

Aeth bywyd yn well, rwy’n cofio’r diwrnod y gwnes i chwerthin go iawn, rwy’n cofio’r diwrnod na wnes i grio, rwy’n cofio’r amser roeddwn i eisiau mynd allan am fwyd neu ddiodydd, rwy’n cofio’r diwrnod y gwnes i fwy na dim ond ‘gweithredu’ yn y gwaith, rwy’n cofio’r amser y gwnes i gofio fy chwaer brydferth ac y gallwn i wenu fy mod wedi bod yn ddigon ffodus i’w chael hi am y cyfnod y gwnes i.

Beth wnaeth helpu? Fy mhartner, fy ffrindiau a fy nghwnselydd. Un gefnogaeth wnaeth wir fy synnu oedd dod yn ôl i’r gwaith a wnaeth roi trefn yn ôl ar fy mywyd, gwnaeth fy ngorfodi i godi yn y bore.

Mi wnes i ddychwelyd yn raddol am bythefnos a chytunodd fy rheolwr y gellid defnyddio wythnos olaf y cyfnod dychwelyd yn raddol dros yr ychydig fisoedd nesaf pan fyddwn ei angen.

Gwnaeth y newid bychan hwn wahaniaeth gan y gallwn ymdopi ar rai dyddiad a dyddiau eraill roeddwn yn gwybod fy mod yn eistedd yn syllu ar y sgrin.

Hefyd atgoffodd mynd yn ôl i’r gwaith pa mor wych oedd y cydweithwyr oedd yno’n aros amdanaf. Rwy’n gwybod eu bod wedi ei chael yn anodd i’m gweld, i ddweud y pethau cywir, i drio peidio â sôn am eu brodyr a’u chwiorydd rhag iddynt fy mrifo.

Roedd yn gwneud gwahaniaeth i wybod eu bod yno, y byddent yn fy annog i fynd adref, y byddent yn mynd â mi am dro /coffi / diod a’u bod yn syml YNO.

Mae’n dal i fod yn anodd ar rai dyddiau, rwy’n cael ôl-fflachidau i’r wythnosau cyntaf wedi iddi hi farw, ryw’n cael pyliau o banig yn y car ar y ffordd i’r gwaith, rwy’n treulio amser yn y toiled yn crio ond mae’r digwyddiadau hyn yn fwy prin nag yr oeddent yn arfer bod ac rwy’n defnyddio fy nghydbwysedd gwaith a bywyd i helpu reoli hyn wrth i fy mywyd fynd yn ei flaen.

Mae rhai o wasanaethau’r cyngor yn fwy amlwg nag eraill.

Casgliadau biniau. Atgyweirio ffyrdd. Ysgolion. Rydym yn sylwi ar y pethau hyn gan eu bod yn cyffwrdd ein bywydau yn ddyddiol.

Ond mae yna lawer o bethau eraill na sylwir arnynt – ac eto maent yn effeithio ar ein bywydau yr un fath.

Rwyf wedi ysgrifennu ambell erthygl ‘yn ôl i’r llawr’ ar y blog hwn, ac ar ôl treulio diwrnod gyda Safonau Masnach yn ddiweddar, roeddwn yn teimlo y dylwn ysgrifennu un arall.

Cefais fy niddori gan yr amrywiaeth o weithgareddau a gynhelir gan y tîm hwn ac roedd yn agoriad llygad gwirioneddol.

I ddechrau, treuliais lawer o’r bore ar yr Harbwr Gweithredu – yn gweithio gyda Ceri a Lynne, yn ogystal â swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a Milo y ci canfod tybaco (mae’n gi clyfar iawn).

Roeddem yn edrych am dybaco anghyfreithiol mewn lleoliadau hunan-storio o amgylch y fwrdeistref sirol.

Mae cŵn fel Milo – a ddarperir gan WagtailUK – yn cael eu defnyddio i arogli tybaco mewn eiddo, ac roedd yn gwneud i mi feddwl am ganlyniadau masnachu anghyfreithlon. Mae’n ei gwneud yn haws i blant gael sigaréts, yn anoddach i ysmygwyr roi’r gorau iddi, yn arwain at golli refeniw treth ac yn niweidio’r busnesau cyfreithiol.

Hefyd, dysgais lawer am yr holl waith arall a wneir gan y tîm – fel mynd i’r afael â dillad ffug ac eitemau trydanol anniogel yn cael eu gwerthu o amgylch y dref ac ar y rhyngrwyd (yn arbennig cyfryngau cymdeithasol).

Roedd y tîm hefyd yn siarad yn angerddol am ddiogelu pobl ddiamddiffyn rhag troseddwyr sy’n eu targedu yn eu cartrefi eu hunain – yn eu dychryn i wario symiau mawr o arian ar waith atgyweirio diangen ac aneffeithiol ar eu heiddo.

Mae rhai o’r achosion mae’r tîm wedi delio â nhw yn achosi llawer o ofid, ond roedd yn wych clywed am y straeon llwyddiant hefyd – lle mae troseddwyr wedi eu hatal rhag achosi mwy o gur pen a gofid i ddioddefwyr.

Treuliais gyfnod byr gyda’r tîm, ond mae’n amlwg eu bod ymhlith ‘arwyr di-glod’ y cyngor.

Nid yw’r cyhoedd yn sylwi ar eu gwaith, ond maent yn ffynnu yn y cefndir i wneud Wrecsam yn le tecach, iachach a mwy diogel – i drigolion a busnesau.

Fy adduned i eleni yw darllen mwy o lyfrau. O leiaf un y mis. Mae hi’n mynd yn iawn hyd yma.

Rwy’n dal i hoffi llyfr go iawn. ’Does dim modd curo bargen ail-law o siop elusen – un â thudalennau go iawn ag ôl defnydd (a chariad?) y perchnogion blaenorol arnyn nhw.

Ond mae hi’n 2017, ac rwy’n hoffi darllen ar fy llechen hefyd. Mae’n gyfleus.

Felly, fel llawer o bobl, rwy’n cyfuno’r hen a’r newydd wrth ddarllen. Rhywfaint o’r gwrthrychol, rhywfaint o’r digidol.

Dyma sydd gennyf dan sylw yn yr erthygl hon. Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus yn ceisio cynnig mwy ar-lein i’w cwsmeriaid.

Nid arbed arian yw’r rheswm dros hynny bob tro. Weithiau, mae’n ymwneud â chwrdd â’r disgwyliadau.

Yn aml iawn, mae cydbwysedd rhwng cadw agweddau mwy traddodiadol unrhyw wasanaeth, rhai sy’n werthfawr i bobl, a datblygu’r pethau newydd y mae pobl yn eu disgwyl. Darparu gwasanaethau sy’n rhannol ddiriaethol, rhannol ddigidol.

Mae llyfrgelloedd yn enghraifft dda o hynny.

cyfrifoldeb cymdeithasol?

Wrexham Library

Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi defnyddio ein llyfrgell leol ar un adeg. Roeddwn i’n defnyddio f’un i amlaf pan oedd fy mhlant yn ifainc.

Byddem yn treulio hydoedd yn dewis ein llyfrau ac roedd yn weithgaredd wythnosol hyfryd. Yr holl storïau. Posibiliadau ac anturiaethau diddiwedd. Braf oedd hynny.

Heddiw, fe allwch chi wneud llawer mewn llyfrgell. Gwylio rhaglenni teledu o’r archif (mae gennym ni adnodd Sefydliad Ffilmiau Prydain gwych yn Wrecsam). Defnyddio’r rhyngrwyd. Gwrando ar gerddoriaeth. Cymryd rhan mewn gweithdai.

Ond os ydych chi dros 40, mae’n siŵr y byddwch yn cofio pan mai llyfrau’n unig oedd mewn llyfrgelloedd. Dim cyfrifiaduron. Dim ffilmiau. Dim Wi-Fi.

Llyfrau oedd yn tynnu rhywun yno. Llyfrau, a dim arall.
Neu a oedd yno rywbeth arall?

I lawer, roedd y weithred gorfforol o fynd a dewis llyfr yn rhan o’r mwynhad. Gweithgaredd tawel, ond un cymdeithasol, er hynny.

Rwy’n tybio bod hynny’n wir o hyd. Mae’r profiad o fynd i’r llyfrgell yn dal yn werthfawr i nifer o bobl, ac maent yn dal yn leoedd diriaethol pwysig.

Maen nhw’n bodloni angen cymdeithasol – nid un am wybodaeth yn unig.

I lawer o gwsmeriaid, nid dod o hyd i rywbeth i’w ddarllen yw diwedd y gân. Mae’n ymwneud â mynd i’r llyfrgell i ddod o hyd i rywbeth i’w ddarllen.

Mae llyfrgelloedd hefyd yn darparu nifer o weithgareddau grŵp – gweithdai, cyrsiau a chlybiau (mae gennym ni glwb codio poblogaidd iawn yn Llyfrgell Wrecsam, er enghraifft).

Eto, mae nifer o bobl wir yn mwynhau’r profiad o fynd i’r llyfrgell i ddysgu. Mae’n beth cymdeithasol, pwysig.

y cwsmer digidol

Er hynny, nid yw hynny’n golygu nad yw cwsmeriaid yn disgwyl defnyddio gwasanaethau’r llyfrgell ar-lein hefyd. Maen nhw, ac mae llyfrgelloedd wedi gweithio’n galed i ateb hynny.

Er enghraifft, gallwch wneud llawer trwy adran y llyfrgelloedd ar ein gwefan – wrexham.gov.uk

Gallwch:

  • ddod o hyd i lyfrau a gweld a ydynt ar gael ar draws Wrecsam a gweddill Gogledd Cymru.
  • adnewyddu neu gadw llyfrau.
  • gweld awgrymiadau gan ddefnyddio’r offeryn ‘Who else writes like this?’ (gwych os ydych wedi darllen holl lyfrau eich hoff awdur) neu’r offeryn ‘Who next?’ (defnyddiol os yw eich plentyn angen parhau i’r lefel nesaf).
  • lawrlwytho e-lyfrau trwy wasanaethau fel BorrowBox a Llyfrgelloedd Cymru.
  • lawrlwytho e-gylchgronau a chomics (gall hyn arbed llawer iawn o arian ichi dros gyfnod – darllenwch yr hyn sydd ar wefan Llyfrgelloedd Cymru).
  • gweld detholiadau o dros 10 miliwn o erthyglau ymchwil a rhai academaidd.
  • dod o hyd i wybodaeth am hanes teulu a’ch llinach – heb orfod talu am danysgrifio.

Rhaid dweud, mae hynny’n eithaf da. Ac fe gewch y math o wasanaeth y byddai nifer o gwsmeriaid, sy’n siopa, bancio ac yn gwneud tasgau dyddiol eraill ar-lein, yn ei ddisgwyl.

Yn y dyfodol, mae’n siŵr y byddwch yn gweld mwy o sgiliau digidol creadigol yn cael eu haddysgu a’u hymarfer mewn llyfrgelloedd. Clybiau codio, chwarae gemau, argraffu 3D ac ati.

Felly, yn ogystal â defnyddio gwasanaethau’r llyfrgell yn ddigidol, bydd mwy o bobl yn mynd i lyfrgelloedd i gydweithio a bod yn greadigol â thechnolegau digidol.

ateb galw’r cyhoedd

Felly, yr hyn sydd gen i yw bod llyfrgelloedd yn gwneud gwaith da iawn trwy gadw’r pethau traddodiadol sy’n bwysig i gwsmeriaid (e.e. y profiad o fynd i’r llyfrgell), gan ddatblygu pethau newydd y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl (e.e. gwasanaethau ar-lein).

Mae’n siŵr bod gwers yma i bob gwasanaeth cyhoeddus.

Enghraifft gyfatebol fyddai’r iPhone. Nid yw’r syniad gwreiddiol wedi newid llawer ers ei lansio yn 2007. Mae wedi cadw’r pethau sydd wrth fodd cwsmeriaid Apple (dyluniad, ansawdd y ffôn ei hun, rhyngwyneb gwych). Ond mae hefyd wedi parhau i ddatblygu i ddefnyddio technoleg mewn modd arloesol a pharhau i wella wrth i ddisgwyliadau’r cwsmer newid – cyflwyno Siri, technoleg gyffwrdd sy’n sensitif i bwysau, ac ati.

Efallai ei bod hi’n od cymharu llyfrgell â ffôn symudol. Er hynny, mae llwyddiant y ddau’n deillio o’r un peth yn y bôn: deall cwsmeriaid.

ymestyn egwyddorion bevan ymhellach na gofal iechyd

edwards-boyce-429x300

Yn ddiweddar treuliais y diwrnod â’r sêr hyn mewn digwyddiad ar gyfer Comisiwn Bevan.

Efallai eich bod chi’n meddwl mai dim ond esgus yw’r neges blog hwn i rannu’r llun! Ond nid yw hynny’n wir.

Roedd yr eicon rygbi Gareth Edwards a’r dyn ei hun Max Boyce yno yn defnyddio eu henwogrwydd i gefnogi Yr Agwedd Ddarbodus – yn benodol o ran gofal iechyd.

Roeddent yn ein helpu i ganolbwyntio ar bedwar Egwyddor Bevan:

1. Sicrhau iechyd a lles, gydag aelodau’r cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal drwy gyd-gynhyrchu.

2. Gofalu am y rheini â’r angen mwyaf yn gyntaf, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r holl sgiliau ac adnoddau.

3. Gwneud yr hyn sydd angen yn unig a gwneud dim niwed – dim mwy, dim llai.

4. Lleihau amrywiaeth amhriodol gan ddefnyddio arferion yn seiliedig ar dystiolaeth yn gyson ac yn dryloyw.

Rŵan. Dw i’n meddwl y gall yr egwyddorion hyn, yn y bôn, fod yn berthnasol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd, nid yn unig iechyd.

wrecsam ynghyd

Un o’r themâu allweddol y tu ôl i’r egwyddorion hyn yw’r syniad o alluogi pobl a chymunedau i fod yn fwy hunan ddibynnol. Yn ein ffordd fach ein hunain rydym eisoes yn gwneud hyn yn Wrecsam.

Flwyddyn diwethaf ysgrifennais am rywbeth o’r enw Wrecsam Ynghyd – ymgyrch i annog mwy o unigolion, cymunedau a grwpiau i ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.

Rydym yn helpu trigolion sy’n barod i wirfoddoli peth o’u hamser, gwybodaeth neu eu hadnoddau i ddod ynghyd â phobl o’r un anian i wneud i bethau ddigwydd.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth ariannol drwy fenthyciadau a grantiau.

Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys Grŵp Coedwigaeth Gwerin y Coed.

Defnyddiodd Grŵp Coedwigaeth Gwerin y Coed, grant o £5,000 i ymestyn ei dîm o wirfoddolwyr, sy’n rhedeg sesiynau awyr agored wythnosol i deuluoedd â phlant gydag ADHD neu awtistiaeth.

Rhoddwyd grant o £5,000 i’r asiantaeth cefnogaeth cyffuriau ac alcohol, CAIS, i gefnogi’r diwrnodau glanhau.

Mae gwirfoddolwyr yn gweithio â chynghorau cymunedol i nodi’r ardaloedd sydd angen ychydig o sylw, cynnal digwyddiadau casglu sbwriel, chwynnu, paentio a gwaith arall.

A rhoddwyd £4,995 i Vic Studios – menter gymdeithasol sy’n darparu lle i berfformwyr ifanc recordio ac ymarfer – er mwyn rhoi cymorth iddo dyfu.

A wnaeth wahaniaeth?

Dywedodd Mike Corcoran, gwirfoddolwr yn y stiwdio: “Wrth wneud cais am arian gan Wrecsam Ynghyd, dim ond newydd agor ei drysau oedd ‘Vic Studios’, yn fenter gymdeithasol annibynnol newydd.

“Roedd yr arian yn hanfodol wrth gefnogi datblygu sefydliadol, twf, ac ail-lansio’r stiwdios, a oedd wedi cael eu rhedeg fel gwasanaeth awdurdod lleol tan 2015.

“Ers hynny, rydym wedi gweld ein buddiolwyr ifanc yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd anferth yng nghanolfan tref Wrecsam fel rhan o Ŵyl Gerddoriaeth Focus Wales, wedi darparu cefnogaeth arbenigol i fwy na 130 o unigolion gydag amrywiaeth o anghenion cymhleth, ac wedi croesawu bron i 1,000 o bobl yn ôl i ‘Vic Studios’ i recordio, ymarfer a bod yn greadigol!”

Do. ‘Dw i’n meddwl y gwnaeth wahaniaeth.

Rydym â sawl enghraifft arall o Wrecsam Ynghyd yn helpu pobl a chymunedau i fod yn fwy hunan ddibynnol.

Nid ydym yn newid y byd, ond rydym yn rhoi rhai o Egwyddorion Bevan ar waith – mewn sawl maes gwahanol.

Mae’n teimlo fel ein bod yn dechrau helpu pobl a chymunedau hawlio’r hyn maent eisiau bod yn berchen arnynt.

Mae hynny’n beth da.

I ddarganfod mwy, ewch i wefan Wrecsam Ynghyd.

Meddyliwch am eich cartref. Ydi’ch cartref yn ddiogel, yn gynnes, ac yn cadw’r tywydd allan?

Ydi’ch cartref yn rhywle y gallwch ddychwelyd iddo ar ddiwedd y dydd a theimlo’n hapus ac yn gyfforddus?

Gobeithio mai ‘Ydy’ yw’ch ateb. Dyna ddylai fod. Achos dylai pawb allu byw mewn cartref o safon. Mae’n angen sylfaenol, ac yn hawl sylfaenol.

Felly gwaith pwy yw sicrhau hynny?

I ryw raddau, ein gwaith ni. Y sector cyhoeddus.

I ddechrau, mae gennym rôl i’w chwarae i sicrhau fod yr amodau’n iawn ar gyfer datblygwyr masnachol.

Rydym angen adeiladwyr i adeiladu tai (yn y llefydd iawn ac i’r gofynion iawn) fel y gallwn ddiwallu anghenion pobl sydd am brynu eu tŷ cyntaf, symud i’r ardal, ac yn y blaen.

Ond mae gennym rôl fwy byth i’w chwarae wrth ddarparu tai cymdeithasol. Cartrefi i bobl nad ydynt mewn sefyllfa i brynu eu heiddo eu hunain, neu sydd ddim am wneud hynny.

Rwyf am ganolbwyntio ar y rôl honno o safbwynt tai cymdeithasol heddiw.

cartrefi sy’n gweddu i arwyr

Chwaraeodd tai cyngor ran enfawr yn y broses o wella safon bywyd yn y DU ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gyfeiriodd y Prif Weinidog Lloyd George am ‘gartrefi sy’n gweddu i arwyr’.

Roedd y wlad yn wynebu prinder dirfawr o dai, a chwympodd llawer o gyfrifoldeb ar y cynghorau – yn gweithredu dan ganllawiau llywodraeth ganolog – i adeiladu cartrefi newydd oedd yn darparu amodau gwell i bobl oedd yn gweithio.

Wedi’r Ail Ryfel Byd, roedd y diffyg tai – a waethygwyd gan y bomio – ar y pwynt gwaethaf yn ein hanes.

Eto, bu’r cynghorau’n gymorth i arwain y ffordd, gan ddarparu tai newydd a gwell cartrefi cyfredol er mwyn diwallu anghenion a disgwyliadau Prydain wedi’r rhyfel.

Mae’r cyfrifoldeb hwnnw gyda chynghorau lleol ac awdurdodau tai hyd heddiw. A dwi’n falch iawn o hynny.

Drwy gynorthwyo i ddarparu tai da, rydym yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o fywydau.

beth rydym yn ei wneud yn wrecsam

completed-ewi-property-in-cefn1

Yn Wrecsam, rydym yn gwario £54 miliwn, y ffigwr uchaf erioed, ar wella’n tai cyngor yn y flwyddyn ariannol hon yn unig (2016/17).

Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr o £7.5 miliwn a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w cefnogi i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Os nad ydych wedi clywed am y safon, mae wedi ei gynllunio i sicrhau fod landlordiaid tai cymdeithasol (fel ni) yn darparu cartrefi sy’n diwallu anghenion trigolion Cymru ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol.

Rhaid i’n holl eiddo gyflawni’r safon erbyn 2020, a gyda 11,300 o gartrefi i’w edrych ar eu holau, mae’n dipyn o gamp.

Felly rydym yn bwrw ati.

Yn ogystal â cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, mae gwelliannau megis ailweirio trydanol, gwres canolog ac inswleiddio waliau allanol hefyd yn cael ei wneud ar eiddo lle mae angen gwneud y gwaith.

Dyma rai ffigyrau. Erbyn diwedd Mawrth 2017, rydym yn gobeithio y byddwn…

• Wedi cynnig ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd i 2,500 o gartrefi.
• Wedi cynnig systemau gwres canolog newydd i 600 o gartrefi.
• Wedi ail-weirio tua 900 o gartrefi.
• Wedi gosod to newydd ar fwy na 750 o gartrefi.
• Wedi gosod inswleiddiad allanol mewn 187 cartref.

Rydym hefyd yn cefnogi anghenion o mwy penodol o ran tai. Er enghraifft, mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf wedi agor canolfan newydd yn Wrecsam ar gyfer cyn filwyr o’r lluoedd arfog.

Bwriad Tŷ Dewr yw cynorthwyo pobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog, sydd mewn peryg o ddigartrefedd, i addasu i i fywyd dinesydd – weithiau ochr yn ochr ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), anabledd, neu heriau eraill.

Mae’r ganolfan yn darparu llety, hyfforddiant a therapi mewn lleoliad heddychlon ar gyrion y dref.

Mae’n lle sy’n ysbrydoli.

Mae Dewis Cyntaf ar fin cychwyn prosiect hunan-adeiladu ar gyfer cyn filwyr, a hynny ar dir sydd wedi ei roi i’r prosiect gan y cyngor.

adeiladu cartrefi newydd

Fel y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, dydyn ni ddim wedi bod mewn sefyllfa i allu adeiladu tai cymdeithasol newydd ers amser maith.

Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar reoli’n stoc gyfredol. A chefnogi darparwyr eraill – fel cymdeithasau tai.

Ond am y tro cyntaf ers degawdau, gobeithiwn y byddwn yn fuan mewn safle i ystyried adeiladu tai cyngor newydd yma yn Wrecsam.

Bydd yn dibynnu ar amrywiol ffactorau, gan gynnwys cyllid. Ond os bydd modd ei wneud, bydd yn gyffrous iawn.

Mae un peth yn bendant. Cynghorau yw canolbwynt darpariaethau tai – drwy gefnogi datblygiad sector preifat a darparwyr tai cymdeithasol eraill, neu drwy reoli ein stoc ein hunain.

Allwn ni ddim gwneud popeth ein hunain, a dydyn ni ddim yn gwneud popeth yn berffaith bob tro, ond rydym yn parhau i ddarparu cartrefi sy’n gweddu i arwyr.

Achos mewn rhyw ffordd fach, mae bron pawb yn arwr.

Ac mae pawb yn haeddu cartref da.

view-1-market-hall

Mae canol dinasoedd a threfi ledled y DU yn wynebu heriau enfawr.

Mae arferion siopa wedi newid. Mae technolegau aflonyddgar fel e-fasnach wedi dod i’r amlwg. Ac mae swyddogaeth ein prif strydoedd yn llai sicr nag erioed.

Bydd yn anodd rhoi bywyd a phwrpas yn ôl i’r lleoedd hyn – sy’n dioddef yn sgil llai o siopwyr a llai o siopau.

Ond mae’n rhywbeth y mae angen dod o hyd i ateb iddo.

Mae nifer o drefi a dinasoedd yn ceisio dod o hyd i ateb, ac un o’r syniadau yn y pair yw’r celfyddydau.

Mewn geiriau eraill, mae cred y gall y celfyddydau a diwylliant gael effaith wirioneddol ar adfywio trefol.

Rŵan, efallai bod hynny’n swnio’n ysgafn a gwlanog iawn (a’r sector cyhoeddus). Ond mae rhai hanesion o lwyddiant ysgubol i’w cael. Darllenwch fwy…

 

o lerpwl i fryste…

Mae Llywodraethau a chynghorau wedi cefnogi prosiectau celfyddydol ers amser hir gyda’r bwriad o annog gwelliant economaidd a chymdeithasol.

Rhai o’r enghreifftiau enwocaf yw Gŵyl Prydain ym 1951. Dôm y Mileniwm. Ac agwedd ddiwylliannol Llundain 2012.

A wnaethon nhw wahaniaeth? Wel, mae’n destun trafod. Ond nid oes rhaid i chi edrych yn rhy bell i ddod o hyd i enghreifftiau cadarn o elw ar y buddsoddiad.

Cymerwch Ddociau Albert yn Lerpwl.

Roedd y dociau, a adeiladwyd ar gyfer llongau hwylio, yn cael trafferth i barhau’n berthnasol yn yr 20fed ganrif a gwelwyd dirywiad. Adeiladau gwag, gwlâu wedi eu llenwi â silt a cholledion swyddi ar ben hynny.

Ond yn yr 1980au aeth Lerpwl ati i newid pethau a chreu canolbwynt diwylliannol – gyda chanolfan gelfyddydau Tate Lerpwl wrth ei galon.

Adfywiodd y dociau (ychydig iawn o bobl fyddai’n dadlau fel arall), gan helpu ysgogi twf economaidd a chreu manteision cymunedol ac addysgol ar gyfer y ddinas.

Mae canolfan gelfyddydau Arnolfini yn enghraifft arall. Cafodd ei sefydlu ar lan y dŵr ym Mryste ym 1975, mewn ardal a oedd yn ddiffeithwch o warysau segur (olion o’i chyfnod fel porthladd masnachol ffyniannus).

Unwaith eto, y farn gyffredinol yw bod gan yr Arnolfini ran allweddol wrth droi’r harbwr yn ganolfan ddiwylliannol gyffrous. Rhan o’r ddinas sy’n bwysig yn economaidd, yn llawn caffis cŵl a busnesau newydd ffasiynol.

Ac mae Hull yn y newyddion ar hyn o bryd.

Mae Hull, a ddewiswyd yn Ddinas Diwylliant y DU 2017, yn gobeithio sicrhau manteision economaidd mawr – gan gynnwys cyfleoedd am fewnfuddsoddi (ac maen nhw eisoes yn gwneud yn wych), swyddi, twristiaeth a sgiliau i bobl leol.

Ac os yw profiad Derry-Londonderry (Dinas Diwylliant 2013) yn golygu unrhyw beth, does dim rheswm i feddwl na fydd yn digwydd.

 

…i wrecsam

Yma yn Wrecsam, rydym ni hefyd yn edrych tuag at y celfyddydau i’n helpu i reoli effaith heriau economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Wrecsam wedi ymrwymo £5m i helpu trawsnewid un o’n marchnadoedd dan do a’n meysydd parcio aml-lawr yn ganolfan ddiwylliannol gyffrous.

Mae gwaith ar Ofod Celfyddydol a Diwylliannol Marchnad y Bobl i fod i ddechrau yn 2017. Bydd yr adeilad yn cynnig lle ar gyfer arddangosfeydd teithiol, gweithdai, busnesau creadigol newydd, digwyddiadau a pherfformiadau.

Ac fel mae’r enw’n awgrymu, nid canolfan gelfyddydol yn unig fydd hon.

Bydd y farchnad yn parhau i fasnachu yn yr adeilad, gyda stondinwyr yn cofleidio’r her o fod yn rhan o rywbeth newydd. Bydd y farchnad yn bwydo oddi ar ac yn ategu’r cynnig diwylliannol – gan gyfuno bywyd a bywiogrwydd y stondinwyr gyda chreadigrwydd yr artistiaid. Pa mor dda ‘di hynny?

Mae rheswm syml pam ein bod yn gwneud hyn. Fel pobman arall, mae gennym lai o siopau a llai o siopwyr. Ac oni bai fod y rhyngrwyd yn torri, does dim llawer o siawns o droi’r clociau yn ôl i’r dim-dimau a’r 90au, pan roedd prif strydoedd yn ganolbwyntiau siopa.

Felly, mae angen dod o hyd i ddulliau newydd o gadw canol ein trefi’n berthnasol. Ac rydym yn credu fod y celfyddydau a diwylliant yn rhan o’r ateb.

Yn ogystal â darparu cartref i entrepreneuriaid a busnesau newydd creadigol, bydd ein canolfan gelfyddydol newydd yn ein helpu i ddenu twristiaid a defnyddwyr hamdden eraill.

Mewn geiriau eraill, bydd yn ein helpu i ddenu mwy o bobl am wahanol resymau, gan helpu i ymestyn eu harhosiad a chynyddu’r hyn y maent yn ei wario yng nghanol y dref – gan gefnogi’r busnesau sy’n weddill.

view-2-market-hall

Argraffiad artist o Le Gwag Diwylliant a Chelfyddyd Marchnad y Bobl.

 

nid arian yw popeth

Ac rydym yn gobeithio sicrhau mantais arall.

Fel arfer, mae prosiectau fel hyn yn dod â chyfleoedd cymdeithasol ac addysgol mawr – gan helpu pobl i brofi pethau newydd a chynyddu eu hyder.

Gall cynnwys pobl leol yn y celfyddydau – yn enwedig yr ifanc – agor drysau go iawn. Ac nid oes yn rhaid i hynny olygu creu celf.

Mae hefyd angen ystyried yr holl bethau eraill sy’n mynd ymlaen o’i gwmpas – y curadu, rheoli lleoliadau, rheoli digwyddiadau, marchnata ac ati. Nifer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad.

Bydd y cyfleusterau hefyd ar gael i grwpiau lleol ar gyfer gweithgareddau fel dawns, gan ddarparu gofod ymarfer sy’n ysbrydoli.

Wrth gwrs, nid yw ein prosiect yn agos at faint Dociau Albert – na dociau Bryste.
Ond mae Gofod Celfyddydol a Diwylliannol Marchnad y Bobl yn brosiect anferth i Wrecsam. Mae’n enfawr.

Nid ydym yn disgwyl i gelf ddatrys holl broblemau canol ein tref. Ond mae’n mynd i fod yn bwysig iawn – ac yn gyffrous iawn – yn rhan o’r ateb.

Dydw i ddim fel arfer yn ysgrifennu blog am bobl unigol. Fel rheol rydw i’n ysgrifennu am ddigwyddiadau, arweinyddiaeth a phynciau sefydliadol.

Ond heddiw, rydw i wedi cael fy ysbrydoli i ysgrifennu am ddyn sy’n ysbrydoli rhywun.

Cefais y fraint o fynychu ei angladd yn ddiweddar yn y pentref lle rydw i’n byw yn Wrecsam.

Rydw i’n dweud ‘braint’ oherwydd dyna sut ydw i’n teimlo am gael adnabod y person yma yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf – ac i fod yn rhan o’r digwyddiad i ddathlu ei fywyd gyda’i gyfeillion a’i deulu.

Tri gair sy’n crynhoi’ dyn yma ydi ‘teulu’, ‘hael’ a ‘chymuned’.

Ac wrth wrando ar deyrngedau ei deulu, mae’n amlwg fod y geiriau hyn yn berthnasol iddo drwy gydol ei fywyd – o’i flynyddoedd cynnar hyd at ei anturiaethau busnes a’i brosiectau adeiladu ac, yn fwy diweddar, ei ymrwymiad i’n heglwys a’i waith codi arian ar gyfer atgyweirio’r to.

Roedd y tri gair yma i’w clywed drosodd a throsodd pan oedd pobl yn siarad amdano. Drwy gydol y gwasanaeth ac yn y sgyrsiau a gafwyd yn ddiweddarach yn y dydd – wrth i ni fyfyrio ar ei fywyd a sut rydym ni’n ei gofio.

Bu i mi ei gyfarfod am y tro cyntaf yn yr eglwys yn fuan wedi i mi symud i’r ardal. “Helo” meddai, a “Chroeso”. Ac roedd yn golygu pob gair.

Ac un felly’r oedd. Yn gyfeillgar, yn gefnogol a bob amser yn barod i ddefnyddio ei sgiliau a’i ddoniau i helpu eraill.

Wrth i mi eistedd yno yn y gwasanaeth yn myfyrio, meddyliais pa dri gair y byddai pobl yn eu defnyddio i fy nisgrifio i?

Sut y bydd pobl yn cofio fy nghyfraniad i fy nheulu, fy ngwaith a’m cymuned? A fyddan nhw mor glir?

Felly fy her i mi fy hun, ac i chithau hefyd, ydi meddwl sut y bydd pobl yn ein cofio ni?

A thrwy gyfrwng y blog hwn, gallaf gydnabod a diolch i’r dyn ysbrydoledig yma a roddodd cymaint – ac sy’n parhau i wneud hynny drwy ei etifeddiaeth. Dyn y bydd pawb yn ei gofio’n gariadus.